Ein Diwrnod Ysgol
Cyfnod Sylfaen |
8.50am - 12:00 |
1.15pm - 3.20 pm |
CA 2 |
8.50am - 12.15pm |
1.15pm - 3.20 pm |
GWAITH CARTREF
Gosodir Gwaith Cartref Llythrennedd a Rhifedd ddwy waith yr wythnos.
Dydd Mawrth - Mathemateg

Dydd Gwener - Iaith a Sillafu

Darllen - Pob dydd
Bydd pob disgybl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau darllen yn ystod yr wythnos ac anogwn hwy i ddarllen yn rheolaidd gydag oedolyn adref. Carwn i rieni nodi sylwadau yng Nghofnod Darllen ei plentyn wedi iddynt ddarllen gyda hwy.

Ffrwyth
Gall eich plentyn brynu ffrwyth am 20 ceiniog yn ddyddiol o siop ffrwythau'r ysgol. Gall eich plentyn ddod a ffrwyth gydag ef/hi i'r ysgol pe dymunwch.

Chwaraeon
Bydd plant Blwyddyn 5 a 6 (Miss C Wilkins)) yn cael eu gwersi Chwaraeon ar bnawn dydd Llun a pnawn dydd Iau. Bydd angen dillad addas ar gyfer chwaraeon ar eich plentyn, sef siorts, crys-t ac esgidiau rhedeg neu wisg nofio addas.
Dydd Llun - Chwaraeon
Dyss Iau - Cit Chwaraeon / Nofio

Gwisg Ysgol
A wnewch chi sicrhau bod enw eich plentyn wedi ei labeli yn glir ar ei wisg/gwisg ysgol os gwelwch fod yn dda.

Oes oes gennych unrhyw gwestiwn neu ymholiad am unrhyw agwedd o waith ysgol neu les eich plentyn yna cysylltwch gyda ni.
Diolch
Miss Carys Wilkins
******
Tymor y Gwanwyn
Ein thema yw 'The Mad Scientist.'
Byddwn yn dysgu am:
-hanes meddygaeth a drachtiau sydd wedi'i ddarganfod
-edrych ar waith arlunwyr sy'n defnyddio clai yn ei gwaith
- 'drachtiau dwl', creu cymysgeddau gwahanol
-pobl enwog yn hanes meddygaeth
- gwaith trydan
Ein thema am yr hanner tymor nesaf yw 'Blitz'.

Bydd y plant yn cael cyfle i ymchwilio a dysgu am yr Ail Ryfel Byd. Fe fyddwn yn astudio:
*Llinell amser yr Ail Rhyfel Byd
*Pobl Dylanwadol y Cyfnod
*Blitz Abertawe
*Efaciwis, dogni bwyd, rôl menywod, blackout ayyb
*Arteffactau o'r cyfnod
Byddwn yn ymweld ag amgueddfa 1940au yn Abertawe ar ddiwedd mis Hydref.
14.9.17 Cyngerdd Peripatetic Sir Gar
Ar Ddydd Iau 14eg o Fedi cafodd disgyblion blwyddyn 5 a 6 gwahoddiad i weld cyngerdd cerddorol gan gwmni Peripatetic Sir Gar. Roedd y plant wrth eu bodd yn gwrando ar amrywiaeth o ganeuon o dan y thema 'Animeiddio'.

26.10.17 Siaradawr Gwadd - Dai Hopkins Jones
Buodd plant blwyddyn 5 a 6 yn ffodus iawn i glywed am brofiadau Dai (fel efaciwi) yn ystod y rhyfel. Roedd pawb wedi mwynhau ac yn ddiolchgar i Dai am y cyfle i ofyn cwestiynau.

27.10.17 Taith Addysgiadol - Amgueddfa Rhyfel 1940au, Bae Abertawe
Fel rhan o waith thema ar y Blitz fuom ni yn ymweld ag Amgueddfa Rhyfel 1940au ym Mae Abertawe. Cafodd y plant diwrnod hyfryd yn cerdded strydau'r 1940au, eistedd mewn lloches, gwisgo i fyny a chwblau cwis i orffen.


20.11.17 - Llongyfarchiadau!
Llongyfarchiadau mawr i Rhun ac Efan am gael i ddewis i chwarae i dim rugby Ysgolion Cynradd Ceredigion.

14.12.17 Ymweliad PC Hannah
Cafodd ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 gwersi gan PC Hannah bore 'ma (14.12.17). Fuodd disgyblion blwyddyn 5 yn dysgu am ymddygiad gwrthgymdeithasol tra bod blwyddyn 6 yn dysgu am gyffuriau.

16.3.18 Trawsgwlad Dyfed
Llongyfarchiadau i Joshua Morris (Bl3) a Casi Gregson (Bl5) am dderbyn trydydd wobr yn y ras yma.

16.3.18 Dawnsio!
Llongyfarchiadau i bawb a chymerodd rhan yn gystadlaethau dawnsio yn Eisteddfod yr Urdd. Yn ogystal â dod yn drydydd yn y gystadleuaeth dawnsio greadigol, aethoch ati i gipio'r trydedd wobr yn y dawnsio disco!

16.3.18 Llwyddiant yn Eisteddfod yr Ysgol
Buodd y pedwar yma yn llwyddiannus iawn yn Eisteddfod flynyddol yr Ysgol. Da iawn chi!

29.3.18 Ymweld a'r Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth
Aethom ni i ymweld ag arddangosfa 'Kyffin Williams' yn y Llyfrgell Genedlaethol.

16-18 Ebrill 2018 Glanllyn


3.5.2018 - Chwilio am drychfilod!
Fel rhan o'n gwaith gwyddionaeth buom ni yn chwilio am lau coed yn yr ardd wyllt. Dyma ni yn gwneud hyn!

24ain o Fai 2018 - Ŵyl Ffilmiau
Heddiw, treuliodd y plant diwrnod gyda blynyddoedd 5 a 6 y sir ym Mro Pedr. Cymerwyd rhan mewn gŵyl ffilmiau bore ma a chafwyd chwaraeon prynhawn yma. Mae'r plant wedi bod yn brysur iawn yn gwneud ffilm ar gyfer heddiw ac mi oeddent nhw'n hapus iawn i dderbyn 'Oscar'!!

7fed o Fehefin 2018 - Bible Explorers
Dros yr wythnosau diwethaf mae disgyblion blwyddyn 5 a 6 wedi cymryd rhan mewn sesiynau addysg grefyddol wedi'i ddarparu gan y Bible Explorers. Dyma nhw yn ymarfer y symudiadau maent wedi dysgu er mwyn gofio'r stori:
