Trefniadau Eira / Snow Arrangements
Annwyl Riant / Gwarchodwr,
Gyda'r rhagolygon am eira mawr dydd Iau yma carwn rannu gwybodaeth gyda chi am ein trefniadau os bydd yn rhaid i ni gau ysgol Carreg Hirfaen am resymau iechyd a diogelwch (e.e. eira, tywydd garw). Byddwn yn gwneud y penderfyniad i gau’r ysgol mor fuan â phosib ac yn eich hysbysu yn syth trwy:
-
Gwefan yr ysgol - http://www.carreghirfaen.amdro.org.uk/home/parents-learners/school-closures/
-
Cyfrif Facebook Rhieni Carreg Hirfaen Parents
-
Carmarthenshire Emergency School Closures Website http://schoolclosures.carmarthenshire.gov.wales/
Yn ogystal, gofynnwn i chi rwydweithio â rhieni eraill a, rhyngom, gobeithiwn y bydd pawb yn derbyn y neges.
Diolchwn i chi am eich cydweithrediad.
Aled Jones Evans
Pennaeth
***************************